top strip left title strip
ccc logo
home whats new events about dylan thomas about the boathouse education resources contact
fersiwn testun yn unig go to english site

Cyflwyniad Addysg


Adnodd addysgol aml-haen yw adran hon y wefan:

  • Gweler: Adran Dylan Thomas / ardal Gweithgareddau Plant i blant rhwng 6-11 oed: yn cynnwys pecyn gweithgareddau dysgu - bywgraffiad / gweithgareddau / lliwio fel pecyn pdf y gellir ei ddadlwytho.
  • Pecynnau Athrawon Ysgol: yn darparu pecynnau a baratowyd yn arbennig gan 2 athrawes yn Sir Gaerfyrddin, Claire Argyle ac Elaine Edwards, gyda ffeiliau pdf i’w trosglwyddo i gyflwyniadau PowerPoint Llên Saesneg ar rai o brif weithiau Thomas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 a 4. Caiff prosiect fideo i ysgolion ei gynnwys yn yr adran hon hefyd.
  • Thomas mewn Cyd-destun: Safle Addysg Bellach gydag adran i fyfyrwyr safon Uwch ac Uwch Atodol yn edrych ar Thomas yng nghyd-destun llenyddiaeth Saesneg yn ystod y 1930au/1940au/1950au cynnar gydag ymatebion i Thomas ar ôl ei farwolaeth. Pob dim o newidiadau mewn ffasiwn i draethodau gan aelodau beirdd y Mudiad yn y 50au hwyr/60au cynnar. Mae hon yn adran a ysgrifennwyd i ddarllenwyr cyffredinol ei mwynhau hefyd! Ar dudalen Thomas mewn Cyd-destun mae dogfen pdf Llinell amser a grëwyd yn arbennig gan Dr John Goodby sy’n rhestru digwyddiadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn gronolegol yng nghyd-destun bywyd Dylan Thomas o 1914 hyd at 1960.
  • Dysgu o Bell (wrthi’n cael ei datblygu): Bydd yn darparu gwybodaeth am fodylau achrededig ar-lein gan Goleg y Drindod, Caerfyrddin a CPC Abertawe ar gyrsiau sy’n astudio Dylan Thomas a llenyddiaeth Saesneg o ganol yr 20fed ganrif.
  • Traethodau a Phapurau Academaidd (wrthi’n cael ei datblygu): Safle addysg uwch yw hwn a fydd yn cynnwys traethodau a phapurau academaidd ar ymchwil newydd i fywyol a gwaith Dylan Thomas. Mae’r cysylltiadau newydd sy’n dod i’r golwg mewn gweithiau ymchwil a beirniadol newydd i fateroldeb testunol gwaith Thomas o ddiddordeb arbennig. Bydd datblygiadau’r dyfodol yn cynnwys Papurau Cynhadledd Dylan Thomas o 2000 ymlaen. [Caiff pob traethawd ei gyhoeddi ar y wefan yn yr adran hon a’i fformadu i ffeil pdf yn null e-lyfr fydd ar gael fel ffeil adnodd na ellir ei golygu/i’w darllen/i’w hargraffu’n unig; bwriad cyhoeddi/ neu ailgyhoeddi’r traethodau yw dangos y trafodaethau a’r ymchwil newydd sy’n cael ei gynnal i fywyd a gwaith Dylan Thomas ar hyn o bryd. Y gobaith yw y bydd o ddiddordeb i ddarllenwyr academaidd a darllenwyr nad ydynt yn academaidd.]
  • Llyfryddiaeth: Llyfryddiaeth gyflawn ar gyfer Dylan Thomas, o ffynonellau sylfaenol i drydyddol, gyda chyd-destun Cyffredinol ychwanegol defnyddiol, hanes llenyddol a damcaniaeth gritigol (detholiad wedi’i olygu).
  • Dolenni Llenyddol: Adnodd cysylltiadau deublyg a grëwyd yn arbennig (1) i gynorthwyo gwaith ymchwil ar-lein am Thomas mewn Cyd-destun gyda chyfoedion llenyddol Thomas; yn ogystal â thudalen arbennig ar y modernydd o fardd sy’n cael braidd dim sylw, Lynette Roberts (2) a rhestr a baratowyd yn arbennig o ddolenni i wefannau llenyddol cyfoes pwysig.
 

 

Yr Adran Hon: Cyflwyniad | Pecynnau Athrawon Ysgol | Thomas mewn cyd-destun | Dysgu o Bell | Phapurau Academaidd | Llyfryddiaeth | Cysylltiadau Llenyddol

Dolenni: Hafan | Beth sy'n Newydd | Digwyddiadau | Dylan Thomas | Y Boathouse | Addysg | Cysylltu