top strip left title strip
ccc logo
home whats new events about dylan thomas about the boathouse education resources contact
fersiwn testun yn unig go to english site

Dylan Thomas: Cyflwyniad Gwyddoniadurol

 


Ganwyd Dylan Thomas yn Abertawe ym 1914 a bu farw yn Efrog Newydd ym 1953. Roedd yn un o awduron mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif, ac mae ei waith yn parhau i daro tant: mae ei edmygwyr heddiw’n cynnwys Bill Clinton, Jimmy Carter, Pierce Brosnan, Catherine Zeta Jones a Michael Douglas, a Mick Jagger, sydd â'i gwmni Jagged Films yn gweithio ar ffilm am fywyd yr awdur ar hyn o bryd. Yn fwyaf enwog am ei farddoniaeth ac am y ‘ddrama i leisiau’, Dan y Wenallt, roedd Thomas hefyd yn ysgrifennu ffuglen (yn cynnwys straeon byrion a nofelau), sgriptiau ffilm a darllediadau radio amrywiol. Ysgrifennodd hefyd doreth o lythyrau a bu’n perfformio gwaith pobl eraill.

Mae ei waith cynnar yn dangos diddordeb ym mudiadau celfyddydol arbrofol yr ugeinfed ganrif gynnar, gyda llawer o’i farddoniaeth a’i ryddiaith o’r 1930au yn cynnwys elfennau swrrealaidd a gothig. Dylanwadwyd ar gyfnod canol ei waith yn ystod y 1930au hwyr a’r 1940au cynnar gan argyfyngau’r Ail Ryfel Byd, pan fu Thomas yn gweithio i beiriant propaganda’r BBC yn Llundain. Mae ei waith hwyr yn ymdrin â gwleidyddiaeth y cyfnod ar ôl y rhyfel ac amgylchedd a daearyddiaeth Gorllewin Cymru. Mae diddordeb Thomas ym mhrosesau’r byd naturiol yn codi ei ben dro ar ôl tro yn ei holl farddoniaeth a’i ryddiaith.

Yn gyfarwydd â Gorllewin Cymru, ac mewn ffordd yn teimlo’n ‘gartrefol’ yno ers ei blentyndod cynnar (roedd teulu ei dad yn hanu o Sir Gaerfyrddin), symudodd Thomas i Dalacharn ym 1937 gyntaf, gan fyw mewn bwthyn pysgotwr cyn symud i ‘Sea View’, ac yna dychwelyd i fyw yn ‘The Boat House’ yn Nhalacharn ym 1949. Roedd yn byw yno gyda’i wraig, Caitlin, a’i blant, Colm, Aeronwy a Llewelyn tan adeg ei farwolaeth.

The Young Dylan Thomas
'The Rimbaud of Cwmdonkin Drive' -
Dylan yn 19 oed

Ers ei farwolaeth, ystyriwyd Thomas fel ymgorfforiad o’r artist hunan-dynghedus (tebyg i ffigurau celfyddydol eraill fel Percy Shelley, Arthur Rimbaud, James Dean a Kurt Cobain). Mae mwy o gyfieithu wedi bod ar waith Dylan Thomas nag unrhyw fardd Saesneg arall erioed, cymaint y mae poblogrwydd ei waith wedi ehangu. O’r adeg iddo ymddangos fel dewis John Lennon ar glawr albwm Sergeant Pepper’s Lonely Hearts Club Band y Beatles, mae Thomas wedi ailymddangos yn rheolaidd mewn diwylliant poblogaidd. Mae ffilmiau diweddar i ddefnyddio’i waith yn cynnwys Dangerous Minds ac Independence Day, ac efallai fod ei gerdd gynnar ‘The force that through the green fuse’ wedi cael dylanwad ar gyfres Star Wars George Lucas. Yn aml iawn mae Thomas y chwedl yn bwrw gwaith Thomas yr awdur i’r cysgod.

© Chris Wigginton, 2003

 

dadlwytho'r pdf dadlwytho’r dudalen hon fel dogfen pdf Acrobat (30kb)

 

Yr Adran Hon: Cyflwyniad | Cronoleg | Bywgraffiad | Prif Waith Thomas | Gweithgareddau Plant | Taith Sir Gaerfyrddin | Cysylltiadau Dylan Thomas

Dolenni: Hafan | Beth sy'n Newydd | Digwyddiadau | Dylan Thomas | Y Boathouse | Addysg | Cysylltu