|
Ganed Dylan Thomas yn Abertawe ym 1914, dinas ddiwydiannol
25 milltir ir dwyrain o Dalacharn. Er iddo gael pob cymorth
posib, gadawodd Dylan yr ysgol ym 1931 gyda chofnod academaidd cwbl
ddinod. Aeth i weithio fel newyddiadurwr ar bapur newydd lleol,
ond cefnodd ar y swydd honno ym 1932 sef yr unig gyflogaeth reolaidd
a gafodd erioed yn ei fywyd. Barddoniaeth a byd y theatr oedd yn
mynd âi fryd. Erbyn 1934 roedd ei gerddi wedi ymddangos
mewn print ac ar y BBC. Erbyn 1936, roedd wedi cyhoeddi dwy gyfrol
o gerddi ac yn enw cyfarwydd yn y byd llenyddol.
Erbyn 1936 hefyd roedd wedi cyfarfod â dwy fenyw
a lywiodd ei fywyd. Daeth Margaret Taylor, gwraig yr hansesydd A.
J. P. Taylor, yn noddwraig hael iawn iddo. Caitlin Macnamara
oedd y llall, dawnswraig a chyn-gariad yr arlunydd Augustus John,
a ddaeth yn wraig i Dylan ym 1937.
Ym 1938, symudodd Dylan i Dalacharn. Treuliodd 5 mis
yno i gyd, a hwnnw oedd un or adegau hapusaf ar mwyaf
cynhyrchiol yn ei fywyd. Crwydrodd Dylan a Caitlin o le i le am
flynyddoedd wedyn, gan symud pan for amgylchiadaun rhy
anodd, neu pan roedd cyfle arall iw fachu.
Pan gyhoeddwyd casgliad newydd oi farddoniaeth
ym 1946, cafodd Dylan lwyddiant masnachol a phoblogaidd sydd wedi
para hyd heddiw. Fe deithiodd bedair gwaith i Ogledd America rhwng
1946 a 1953, ller oedd yn boblogaidd tu hwnt. Roedd y comisiynaun
llifo i mewn ac yntaun codi symiau mawr o arian am ei waith.
Er hynny, roedd ei fywyd personol yn fwyfwy anodd,
ai berthynas â Caitlin bron â chwalun chwilfriw.
Bu farw yn yr ysbyty yn Efrog Newydd ym 1953, yn fuan wedir
perfformiad cyntaf o Under Milk Wood. Mae wedii gladdu ym
mynwent Eglwys Martin Sant, Talacharn, a Caitlin hithau wedii
chladdu wrth ei ochr.
Yn ystod ei oes fer, fe ysgrifennodd Dylan beth wmbreth
o lythyrau syn cynnwys nodiadau helaeth am ei ddarllediadau,
ei sgriptiau ffilm a radio, ei farddoniaeth ai ryddiaith,
ai fywyd lliwgar a digon gwyllt yn aml. Ac eto, maen nhwn
datgelu fod Dylan yn saer geiriau heb ei ail, yn llawn awen gymhleth
ac archwiliad angerddol ir corff ar enaid ar drothwy
ein hoes amlgyfrwng ni. Ei farddoniaeth ai ryddiaith ef yw
rhai o gampweithiau artistig yr ugeinfed ganrif i nifer, ac maen
sicr yn un or beirdd hynny yr ysgrifennwyd amdano fwyaf yn
yr ugeinfed ganrif.
DYLAN THOMAS A THALACHARN
Mae gan Dalacharn nifer o gysylltiadau rhyfeddol ag
artistiaid amlwg. Roedd Richard
Hughes, y nofelydd ac awdur A High Wind in Jamaica, yn
byw yn Castle House, tra roedd Charles
Morgan, awdur a beirniad amlwg ai wraig, y nofelydd Hilda
Vaughan, yn ymweld yn rheolaidd âr dref, yn ogystal
ag Augustus John, y paentiwr
enwog.
Ar ôl ei ymweliad byr ym 1934, daeth Dylan draw i Dalacharn
ym 1936 i gael cinio gyda Richard Hughes ynghyd ag Augustus John
a Caitlin Macnamara.
Ym 1938, fe drefnodd Richard Hughes lety tymor hir
i Dylan a Caitlin yn "Eros" yn gyntaf, ac yna "Sea
View". Arhosodd Dylan yno am bum mis i ysgrifennu cerddi a
rhyddiaith, yn enwedig y casgliad dan yr enw Portrait of the
Artist as a Young Dog.
Ym mis Mai 1939, dychwelodd Dylan a Caitlin i "Sea
View" am rai misoedd, ac fe ddaeth yn ôl am gyfnod byr
ar ddechrau 1940. O fis Rhagfyr 1940 fe fuon nhwn byw yn Castle
House, gyda Dylan yn mynd ati i lenydda yn y ty haf a oedd yn sefyll
ar hen furiaur castell.
Am flynyddoedd lawer, roedd Dylan yn byw mewn tai
a oedd dan ofal Margaret Taylor: mewn ty haf yng ngardd teulur
Taylors yn Rhydychen rhwng 1946 a 1947, ac yna mewn ty yn South
Leigh, Swydd Rhydychen rhwng 1947 a 1949. Fe werthodd Margaret Taylor
y ty hwnnw ym 1949, gan brynur Boat House wedyn.
Cafodd cyflenwadau dwr a thrydan eu gosod yno, ac
fe ymgartrefodd Dylan a Caitlin yno ym mis Mai 1949. Er iw
phriodas chwalu ai sefyllfa ariannol go simsan, sicrhaodd
Margaret Taylor fod gan Dylan gartref iddoi hun hyd ddiwedd
ei oes.
Ar ôl i Dylan farw, cyflwynodd Margaret Taylor
y ty mewn ymddiriedolaeth i Caitlin ar plant. Ym 1973 fe werthodd
Caitlin y ty, ac ym 1975 fei hagorwyd er cof am fardd o fri.
|