|
Middleton
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ywr gyntaf i gael ei hadeiladu
yn y DU ers 200 mlynedd, gydar Ty Gwydr Mawr yn ganolbwynt
ir cyfan ar dir Ystâd Neuadd Middleton gynt. Hwn ywr
ty gwydr siâp bwa un-darn mwyaf yn y byd ac mae llynnoedd,
rhaeadrau a choetiroedd oi amgylch. Dyma ble mae borderi blodau
hiraf Prydain hefyd atyniad heb ei ail i bob garddwr gwerth
ei halen!
Mae Aberglasni
gerllaw - "Gardd ar goll mewn amser", sef gardd a phlasty
or 16eg/17eg ganrif yng nghanol prydferthwch Dyffryn Tywi,
gyda gardd glawstrog anghyffredin, llyn sgwâr a thwnnel ywen
hynafol.
Ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, mae darn o dir diffaith 20 km ar
hyd yr arfordir wedii drawsnewid yn llwyr, ac maen cynnwys
cynefin gwlyptir 250 erw, cwrs golff 18-twll Jack Nicklaus (iw
agor yn 2004), a llwybr cerdded 1,000 metr ar hyd y promenâd,
a llwybrau beicio (mae rhan or Llwybr Celtaidd yn mynd heibior
Parc) ymhlith y gwelliannau eraill.
Mae Sir Gaerfyrddin yn enwog am ei chrefftau traddodiadol: mae
crochenwyr, gwehyddion, arlunwyr, gwneuthurwyr gwydr lliw a thurnwyr
coed yn defnyddio eu medrau i greu anrhegion cain neu ewch
heibio i un or orielau celf a chrefft.
Ir rheini ohonoch syn hoff och bol, cewch flas
ar amrywiaeth eang o gynhyrchion cartref o safon sydd ar werth ym
marchnadoedd misol y ffermwyr yng Nghaerfyrddin a Llanelli.
Byddai ymweliad âr fferm siocled i flasu siocled cartref
at ddant yr hen ar ifanc fel ei gilydd!
Ydych chi eisiau cadwn heini? Mae cerdded a beicio yn boblogaidd
iawn yma, diolch yn bennaf i amrywiaeth a phrydferthwch cefn gwlad
y sir. Gyda llwybrau beicio syn ymestyn dros 27 milltir, maen
nhwn addas i feicwyr ifanc ac i rai syn hen law arni.
Mae digon yma hefyd i gadw golffwyr, merlotwyr a physgotwyr yn hapus
eu byd. Beth am roi cynnig ar sgïo ar lethr sych neu sledio,
bowlio dan do ac yn yr awyr agored, rasio ceir bach, rasio ceir
neu saethu clai laser?
Mae siopau o bob math yn ein trefi sydd yr un mor amrywiol ân
cefn gwlad. Mae siopau cadwyn mawr yn nhrefi Llanelli a Chaerfyrddin
yn ogystal â siopau bach a marchnadoedd dyddiol dan do. Maer
siopau llai yn gwerthu nwyddau unigryw ac anghyffredin difyr dros
ben.
Oes gennych chi ddiddordeb yn nhreftadaeth y wlad? Mae olion ein
hanes an diwylliant iw gweld yn amlwg ar hyd a lled
y fro, yn gestyll, trên stêm, amgueddfeydd di-ri ac
atyniadau sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fe allwch
chi hyd yn oed ymweld â mwyngloddiau aur o oes gyn-Rufeinig
a mynd ar daith i grombil y ddaear neu chwilio am aur mewn padell.
Os hoffech lyfryn lliw llawn, ffoniwch ein llinell ffôn 24-awr:
01558 824226
e-bost: tourism@carmarthenshire.gov.uk
DOLENNI CYSWLLT i wefannau syn sôn am
dwristiaeth a gweithgareddau yn Sir Gâr:
Cymdeithas
Twristiaeth Sir Gaerfyrddin
Ymwelwyr â Sir
Gaerfyrddin
Pethau
iw gwneud yn Sir Gaerfyrddin
CADW
Yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Swyddfa
Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Amgueddfa Diwydiant Gwlân
Cymru
Rheilffordd y
Gwili
Canolfan Gwlyptiroedd Cenedlaethol
Merlin Bird Tours
Canolfan Beicio Pedalabikeaway
Clwb Golff Caerfyrddin
Clwb Golff Derllys
Clwb Golff Glyn Abbey
Canolfan Farchogaeth Marros Farm
Rheilffordd Calon Cymru
Cydweli
Castellnewydd Emlyn
Cwm Gwendraeth
Canolfan Grefftau Glyn-coch
|