top strip left title strip
ccc logo
home whats new events about dylan thomas about the boathouse education resources contact
fersiwn testun yn unig go to english site

Y Cwt Ysgrifennu

 


Dechreuodd bywyd cwt ysgrifennu Dylan Thomas yn ôl yn y 1920au, pan brynodd gwr o’r enw Dr Cowan, oedd yn treulio’i wyliau yn y boathouse, y cwt i gadw’i gar Wolsey. Talodd £75 i godi’r cwt £5 ar bileri haearn bwrw ar y clogwyn ar adeg pan mai £200 yn unig oedd pris ty ar gyfartaledd. Adeiladwyd y cwt gan Billy Williams, prentis o saer gyda chwmni Scourfields o Feidrim mewn paneli. Daethpwyd ag ef i lawr o Feidrim gyda cheffyl a chart ac fe’i codwyd ar y llwyfan ar y clogwyn gan llath o’r Boat House.

Pan brynodd Margaret Taylor y Boat House ar ran y Thomasiaid ym mis Mai 1949, trowyd y garej wag yn ‘gwt gwaith’ i Dylan; rhoddwyd stôf glo caled, silff lyfrau fawr, a dau fwrdd yn y cwt fel rhan o’r ‘ecstras’ a gafodd eu cynnwys wrth brynu’r lle. Wrth ysgrifennu i ddiolch i Margaret Taylor am ei charedigrwydd dywedodd Dylan "All I write in this water and tree room on the cliff, every word will be a thanks to you."

 

Dylan Thomas in the Writing Shed
Dylan Thomas yn y Cwt Ysgrifennu 1952
©Rollie McKenna

Gan gynefino’n gyflym â’r ffordd o fyw yn Nhalacharn, setlodd Dylan yn ôl i’w hen ffordd arferol o fyw: gwneud hyn a’r llall yn y bore, yn cynnwys darllen, ysgrifennu llythyr neu ddau efallai, a, bron bob dydd, ymweld â’i rieni, (roeddent bellach yn byw mewn rhan o dy sioraidd ar y briffordd o’r enw’r Pelican), i gwblhau’r croesair gyda’i dad. Am hanner dydd byddai’n yfed yng Ngwesty Brown’s i gael clywed clecs diweddaraf y dref, ac yna’n dychwelyd i’r cwt gwaith o ddau tan saith o’r gloch i ysgrifennu neu feddwl neu gysgu, wedi blino ar ôl y cwrw ar brynhawniau braf yr haf: ysgrifennodd Dylan at Hecter MacIver, ‘My study, atelier, or bard’s bothy, roasts on a cliff-top.’ Ar ei ben ei hun, yn ei ‘ystafell ddwr a choed’, uwchben llaid y llanw neu ddyfroedd yr aber, boed law neu hindda, ddydd neu nos, dan gysgod y ffigysbren a’r fedwen osgeiddig, gellid ei glywed weithiau’n adrodd ei waith, trosodd a throsodd, yn blasu’r geiriau, cyfri’r sillafau, ac yn gwrando ar fydr yr odlau. Fel y cofiodd Caitlin: "When I think of that concentrated muttering and mumbling and intoning, the realms of discarded lists of rhyming words, the innumerable repetitions and revisions and how at the end of an intensive five hour stretch (from 2-7) prompt as clockwork, Dylan would come out very pleased with himself saying, he had done a good days work, and present me proudly with one or two or three perhaps fiercely belaboured lines".

Yn ei ‘wordsplashed hut’, fel y disgrifiodd Thomas ef i’r Dywysoges Caetani ym 1952, roedd y waliau’n llawn lluniau, atgynyrchiadau a thoriadau papur newydd o weithiau'r Arglwydd Byron, Walt Whitman, Louis MacNeice, W. H. Auden, William Blake, llun gan Modigliani, noethluniau picaresg, cyfresi arbennig o Picture Post a chylchgronau tebyg, rhestrau o odlau a rhestrau o eiriau a oedd yn cyflythrennu. Ar y prif fwrdd roedd nifer o ddrafftiau o waith ar eu hanner; roedd Thomas yn aml yn ysgrifennu dros gan fersiwn o gerdd yn y ‘seathumbed leaves’ olaf hyn o gyfansoddi cymhleth. Roedd Thomas yn ysgrifennu toreth o lythyrau (mae dros 1100 wedi eu casglu) a drafftiau, oll gyda’i nodiadau nodweddiadol a’i luniau bach doniol. Mae’n sicr hefyd y byddai yn y cwt eiriadur mawr Saesneg a, heb os, Roget’s Thesaurus, a rhywbeth gan Dickens, yn ogystal â’r rhifynnau diweddaraf o gylchgronau llenyddol fel Wales Keidrych Rhys, Horizon Cyril Connolly a Botteghe Oscure y Dywysoges Caetani. Gallai Thomas weld y cawr ‘Jack’ trwy ei ffenest ddwyreiniol, y gweithiwr fferi’n gweithio rhwng Talacharn a’r llwybr fferi gyferbyn, wrth ochr Black Scar, a lan ar y bryn y tu hwnt roedd Llanybri; a’r ochr draw roedd caeau a ffermydd Pentywyn. Gan edrych trwy’r ffenest arall, allan dros yr aber, gallai weld Trwyn Ginst ar benrhyn Llansteffan yn y pellter agos ac ar ddiwrnod braf a chlir gallai weld Pen Pyrod, Rhosili yng Ngwyr fel silwét ym mhell i ffwrdd: gyda’r Gwyr bell yn ei atgoffa o Vernon Watkins a Bert Trick a’u trafodaethau yno yn y 1930au ynglyn â’r hyn a fyddai’n cael ei adnabod fel Dan y Wenallt. Yn edrych tua’r de o’r ffenest ochr, roedd bryncyn Syr John, y tu ôl i’r gwastadeddau llaid a blaendraeth twmpathog y dref isaf.

This document is also available in a fuller version as an Acrobat pdf

Download pdfdownload pdf (60kb)

 

Yr Adran Hon: Cyflwyniad | Hanes y Boathouse | Dewch ar y daith rithwir | Y Cwt Ysgrifennu | Gwybodaeth i Dwristiaid | Sut i gyrraedd y Boathouse

Dolenni: Hafan | Beth sy'n Newydd | Digwyddiadau | Dylan Thomas | Y Boathouse | Addysg | Cysylltu