top strip left title strip
ccc logo
home whats new events about dylan thomas about the boathouse education resources contact
fersiwn testun yn unig go to english site

Hanes Y Boathouse

 


Hyd yn oed yn ystod eu dyddiau cynnar yn Nhalacharn, roedd Dylan a Caitlin wedi breuddwydio am gael byw yn y ‘Boat House’. Mae’n sicr nad cysur ac ymarferoldeb y lle a’u denodd. Mewn gwirionedd, hen le digon oer a llaith oedd y ty, a doedd dim sôn am drydan na dwr tap nac ystafell molchi tan i Margaret Taylor brynu’r lle a thalu am y cyfleusterau hynny.

Er hynny, mae’r hen le gyda’i harbwr bach yn llecyn arbennig iawn. Ar ôl cyrraedd yma, rydych yn camu i fyd diamser ble mae’r afon Taf yn ymdroelli’n igam ogam, gyda rhimyn o oleuni ar y mwd a’r dwr, gyda bryniau gleision gerllaw, yr olygfa eang ar draws yr aber a’r môr, a chri’r gwylanod uwchben.
Ys dywed Dylan, does unlle arall yn debyg i’r ‘Boat House’. O’r parlwr, fe welwch chi’r dirwedd a oedd yn gymaint o ysbrydoliaeth i Dylan. Yn wir, fe allwch weld gwrthrychau ei gerddi’n llythrennol.

Gallwch hefyd weld y rhan fwyaf o’r pethau cyfarwydd iddo. Ar draws yr afon, ychydig ar y gorwel, saif Blaen-cwm, Llansteffan a Fern Hill, y fferm a ddaeth yn symbol o ddiniweidrwydd plentyndod a natur di-droi’n ôl amser. Ar y gorwel pell, fe welwch chi Benrhyn Gwyr a Phen Pyrod sy’n gefndir i un o straeon byrion mwyaf grymus Dylan, ‘Who do you wish was with us?’ I’r dde mae Talacharn, yn arwain at ei rieni a’r tafarndai a’r heolydd a’i hudodd i ffwrdd o’i ysbrydoliaeth, ac eto a’i ddenodd yn ôl dro ar ôl tro.

 

The Parlour
The Parlour at the Boathouse ©CCC

TRO I’R TY
Ar y cyfan, mae adeiladwaith y ‘Boat House’ yn debyg i’r hyn ag yr oedd pan roedd teulu’r Thomas yn byw yma, er bod muriau mewnol y llawr uchaf wedi’u newid.

Ewch i’r dudalen Taith Rithwir i weld ailgread o’r ty yn y 1950au pan roedd Dylan Thomas a’i deulu yn byw yno. Mae’r manylion isod yn ymdrin â’r ty fel ag y mae heddiw fel canolfan dreftadaeth Dylan Thomas.

Rhaid cerdded ar hyd llwybr y clogwyn, "Llwybr Dylan" heddiw, i gyrraedd y fynedfa ac yna drwy’r ardd ffrynt tua’r drws sy’n arwain i’r llawr cyntaf. Nid yw llwybr yr ardd a ddefnyddiwyd gan Dylan yn bodoli mwyach, er bod modd gweld olion ohoni ar gyrion yr ardd agosaf at yr afon. Roedd parlwr ar y llawr cyntaf ynghyd ag ystafell wely’r plentyn hynaf, Llewelyn – sef y dderbynfa a’r siop lyfrau heddiw – ac ystafell molchi.

Mae grisiau’n disgyn i’r seler lle’r oedd y gegin a’r lolfa ers talwm. Heddiw, y gegin a’r ystafell baned sydd yno. Mae drws cefn yn mynd allan i’r ardd. Ar y llawr uchaf roedd dwy ystafell wely - un Dylan a Caitlin, ac ystafell wely Aeronwy a Colm. Bellach, mae arddangosfa doreithiog yn ystafell Dylan tra gallwch wylio fideo amdano yn yr ystafell fach arall.

Y PARLWR
Y parlwr oedd ystafell orau’r ty wedi’i neilltuo i ymwelwyr arbennig. Ystafell ffurfiol oedd hon, nid ystafell fyw i’r teulu. Mae’r parlwr wedi’i adnewyddu i fod fel y byddai wedi edrych yng nghyfnod Dylan a Caitlin. Ar un llaw, dyma barlwr teulu a oedd yn brin o arian, ond ar y llaw arall, mae’n ystafell eithaf dosbarth canol a bohemaidd yr olwg.

Mae’r celfi, y lluniau o’r teulu a’r eitemau bychain niferus yn y parlwr yn perthyn i gyfnod y 1940au a’r 1950au yn bennaf. Mae’r ddesg ger y drws yn ddiddorol dros ben. Tad Dylan oedd biau’r ddesg, ac fe’i cyflwynodd i’w fab. Yn wreiddiol, roedd y ddesg yn nghartref genedigol Dylan yn Cwmdonkin Drive, Abertawe.

Mae celfi eraill Cwmdonkin Drive yma hefyd, gan gynnwys y gadair freichiau las, y chaise lounge a’r gadair â chefn dellt. Roedd un o’r merched a arferai gynorthwyo yn y cartref yn Cwmdonkin Drive yn cofio’r gadair olaf pan aeth am dro i’r ‘Boat House’ ar ôl i Dylan farw. Dywedodd mai dyma’r unig gadair yr oedd y gweision yn cael eistedd arni.

Mam Dylan oedd biau’r ddesg ysgrifennu a oedd yn plygu ynghyd â llawer o’r celfi eraill, ac fe ddaeth â nhw gyda hi pan symudodd yno i fyw rhwng 1954 a 1958. Mae’n debyg mai teulu’r Thomas oedd yn berchen y bwrdd coffi a ddaeth i’r golwg yn y cwt ysgrifennu ym 1980.

Ar wahân i’r pethau materol, yr hyn sy’n rhoi’r cipolwg gorau i ni ar fyd Dylan Thomas yw’r goleuni, y tawelwch a’r golygfeydd yn arbennig. Mae tair ffenestr yn yr ystafell, sy’n edrych allan ar y dwr a’r bryniau o gwmpas. Mae’r ystafell yn sefyll yn uchel uwchben y dwr a’r traethellau, ac mae swn yr adar i’w glywed yn gyson a’r golau ar y dirwedd yn amrywio byth a hefyd.
O dreulio ychydig funudau yn nhawelwch yr ystafell hon, gyda llais Dylan yn darllen rhai o’i gerddi yn y cefndir, fe gewch chi brofiad gwerth chweil a chipolwg ar safon rhyfeddol ei waith. Er yr holl glecs a’r broliant amdano, ei waith yw’r elfen bwysig bob amser.

YR YSTAFELLOEDD GWELY A’R ARDDANGOSFEYDD LAN LOFFT
Mae’r ddwy ystafell wely yn cynnig cyflwyniad fideo ac arddangosfa sy’n dehongli ei lyfrau, lluniau, llythyron a dogfennau, gyda phaneli esbonio.

Ymhlith y gwrthrychau diddorol niferus, mae portread enwog o Dylan yn llanc ifanc. Dyma’r llun gwreiddiol wedi’i lofnodi gan Dylan ei hun ac wedi’i gyflwyno fel a ganlyn: "For Pamela and Neil and Mrs J with all my love. Dylan. Christmas 1936." Y bardd a’r nofelydd Pamela Hansford Johnson yw hon. Roedd Pamela a Dylan mewn cysylltiad agos â’i gilydd yn y 1930au, ac yna fe drodd cyfeillgarwch yn gariad. Roedd Dylan yn mynd i ymweld â Pamela yn Llundain yn aml, a Pamela a’i mam yn dod i Abertawe yn eu tro. Er i Dylan ofyn i Pamela ei briodi, gwrthod y cynnig a wnaeth a hithau’n poeni am ei arferion yfed a’i natur chwit-chwat. Yn ddiweddarach, fe briododd Pamela â’r gwyddonydd a’r nofelydd enwog C. P. Snow, sef yr Arglwydd Snow yn ddiweddarach, awdur Corridors of Power ac un o weinidiogion Llywodraeth Lafur 1964.

Gyda llaw, pan roedd NASA, Asiantaeth Ofod America, yn casglu eiconau diwylliannol i’w hanfon gyda’r llong ofod, roedd y portread hwn yn eu plith!

Mae gwrthrychau amlwg eraill yn cynnwys llun gan Dylan, pâr o gyfflincs, a masg angau Dylan gan David Slivka. Roedd y masg hwn dan ofal Richard Burton ac Elizabeth Taylor yn wreiddiol. Ar ôl marwolaeth Richard Burton, cafodd y masg ei werthu ymhlith eiddo eraill yr actor – a daeth prynwr â’r masg yn ôl i Dalacharn i’w gadw yn y ‘Boat House’.

YR HARBWR A’R TERAS
Efallai i’r teras yng nghefn y ty gael ei ddefnyddio fel harbwr neu ddoc sych yn wreiddiol. Tan yn ddiweddar, byddai’r afon yn gorchuddio’r teras gan gyrraedd y ty adeg llanw uchel – sy’n dal i ddigwydd weithiau pan fo’r llanw’n hynod uchel. Yn wreiddiol hefyd, roedd drws yn agor at lwybr a oedd yn mynd tua’r dref hyd glannau’r afon. Mae’r llwybr bellach wedi cau, er bod olion o’r fynedfa i’w gweld o hyd.

Y CWT YSGRIFENNU
Pan roedd Dylan yn gweithio yma, roedd bwrdd, cadair a chist ddroriau yn y cwt. Roedd stôf olew yn cynhesu’r lle adeg tywydd oer. Roedd lluniau o’i hoff awduron ar y waliau yn ogystal ag ambell atgynhyrchiad o baentiadau a ffotograffau. Roedd y llawr yn frith o gopïau wedi’u taflu o’r neilltu wrth iddo eistedd, gan syllu allan drwy’r ffenestr, a chopïo’i waith dro ar ôl tro wrth geisio mynegi’r union beth oedd ar ei feddwl.

Ar ôl tipyn o waith adfer, mae’r cwt heddiw’n debyg i’r hyn yr oedd yn ystod oes Dylan. Mae’r adeiladwaith ei hun yn union yr un fath. Roedd y cadeiriadau a’r bwrdd yn perthyn i deulu’r Thomas. Yn bwysicach fyth, mae’r olygfa yr un mor brydferth ag yr oedd pan roedd Dylan yn byw yma. Mae’r holl bethau a’i hysbrydolodd i lenydda yn amlwg i ymwelwyr heddiw.

Bron yn syth ar ôl iddo gyrraedd Talacharn ym 1949, ailafaelodd Dylan yn ei waith ysgrifennu. Mabwysiadodd y cwt hwn gerllaw’r llwybr rhwng y dref a’r ‘Boat House’ fel ei weithle. Yn y llecyn hwn uwchben y foryd, yn ddigon pell o’i deulu ac yn ddigon cyfleus i gael sleifio i’r dref a’r dafarn, ysbrydolwyd Dylan gan y golygfeydd dramatig a’r hyn a welodd o flaen ei lygaid.
Ysgrifennodd Dylan lawer o’i waith gorau yn y cwt hwn. Y gerdd gyntaf a gyfansoddodd oedd "Over Sir John’s Hill" lle mae’n disgrifio’r olygfa o’r cwt ac yn sôn am yr adar ysglyfaethus yn dod â marwolaeth yng nghanol yr holl brydferthwch. Bywyd, marwolaeth, trasiedi, tragwyddoldeb a Duw: fe allai Dylan weld y cyfan o’i ffenestr yn y lle unigryw yma.

Ysgrifennodd rhagor o gerddi ar ôl ei daith gyntaf i America. Cafodd cerddi megis "In the white giant’s thigh", "In Country Heaven", "Poem on his Birthday", "Do not go gentle into that good night" ac "Elegy" oll eu cyfansoddi yn nhawelwch y cwt ysgrifennu, a hynny pan oedd Dylan yn cael ei lethu fwyfwy gan ymdeimlad o anobaith.

Ac yntau’n anhapus ac yn methu â rheoli’i fywyd, roedd Dylan yn mynnu mai dim ond am "hapusrwydd cyffredinol" y gallai ysgrifennu yn ei gylch. Roedd ei ddrama lwyfan Under Milk Wood wedi’i lleoli mewn pentref Cymreig cartwnaidd ac wedi’i seilio ar nifer o bentrefi yr oedd Dylan yn eu hadnabod yn dda – Talacharn yn bennaf – yn chwa o lawenydd yn ystod ei ddyddiau du yn y cwt.

 

Yr Adran Hon: Cyflwyniad | Hanes y Boathouse | Dewch ar y daith rithwir | Y Cwt Ysgrifennu | Gwybodaeth i Dwristiaid | Sut i gyrraedd y Boathouse

Dolenni: Hafan | Beth sy'n Newydd | Digwyddiadau | Dylan Thomas | Y Boathouse | Addysg | Cysylltu