top strip left title strip
ccc logo
home whats new events about dylan thomas about the boathouse education resources contact
fersiwn testun yn unig go to english site

Y Boathouse: Cyflwyniad

 


Dylan Thomas yw un o lenorion mawr Cymru ac yn ddiau, gyda'r gorau o'r ugeinfed ganrif. Ef oedd aelod enwocaf ysgol o lenorion Eingl-Gymreig a oedd yn ei bri yn y cyfnod. Manteisiodd yn helaeth ar y cyfryngau torfol a oedd yn ennill eu bri y dyddiau hynny, fel y radio a recordiau.

Ganed Dylan Thomas yn Abertawe ond pobl o Sir Gâr oedd ei deulu a bu'r sir yn ysbrydoliaeth ddihysbydd iddo. Bu'n byw yn y Boathouse am bedair blynedd olaf ei fywyd. Ysgrifennodd lawer o ddarnau mawr yno - gan gynnwys 'Under Milk Wood'. Mae'r Boathouse bellach yn ganolfan dreftadaeth wedi'i chysegru i'r bardd.

Mae digonedd yn y Boathouse, ar y creigiau uwchlaw Aber hyfryd yr Afon Taf, i fynd â bryd yr ymwelydd gan gynnwys gwybodaeth am y bardd ei hun, trugareddau o'i fywyd, siop lyfrau a chaffi.

Boathouse from St John's Hill
Dylan Thomas Boathouse from St John's Hill
©CCC

 

Dylan a Lacharn

'And some, like myself, just came, one day, for the day, and never left; got off the bus, and forgot to get on again'.
(Dylan Thomas yn ysgrifennu am Lacharn, o 'Quite Early One Morning').

Cyrhaeddodd perthynas hir Dylan Thomas â phentref Lacharn ei phenllanw pan symudodd i'r Boathouse ym 1949, ar ôl byw am beth amser mewn dau dy arall yn y pentref. Bu'r Boathouse - 'sea shaken on a breakneck of rocks' - a chymeriad unigryw Lacharn ei hun gyda'i gilydd yn symbyliad i rai o'i weithiau enwocaf. Cadarnhaodd Caitlin, ei weddw, mai'r pentref oedd sail y Llareggub dychmygol yn 'Under Milk Wood' a ysgrifennwyd yn Lacharn.

O'r 'Cwt Ysgrifennu', hen garej yn perthyn i'r ty gwelai olygfeydd godidog o'r aber, yr allt a'r pentref, gan ysbrydoli rhai o'i gerddi enwocaf gan gynnwys 'Over Sir John's Hill', a 'Poem on his Birthday'. Cafodd y cerddi 'In The White Giant's Thigh', 'Lament' ac 'In Country Sleep' hefyd eu hysgrifennu yn y Boathouse.

Claddwyd Dylan a Caitlin Thomas ym mynwent Eglwys Sant Martin yn Lacharn. Er cof amdano, codwyd plac yn yr eglwys sy'n replica o'r un yng Nghornel y Beirdd yn Abaty Westminster, yn cydnabod ei gyfraniad sylweddol at lenyddiaeth Saesneg.
Mae'r Boathouse, a fu'n gartref i Dylan a Caitlin Thomas a'u plant Aeron, Llewelyn a Colm o 1949 tan 1953, bellach yn ganolfan treftadaeth. Cewch weld yno y celfi gwreiddiol a thrugareddau o'r cyfnod, ystafell lyfrau arbenigol, caffi, llwyfan wylio a theras a chynhelir cyflwyniadau clyweledol.

Codir tâl mynediad ond bydd consesiynau ar gael i'r Henoed, Plant, Teuluoedd a Grwpiau. Mynediad am ddim i blant dan 7. Mynediad am ddim hefyd rhwng Tachwedd ac Ebrill i bartïon ysgol sy'n trefnu ymlaen llaw. Gwaetha'r modd, nid yw'r ganolfan hon yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

DARLLENWCH – "Christmas in the Boathouse" gan Aeronwy Thomas

"In the grate hung huge swathes of holly, singed at the edges, and red berries peeped from behind jugs and plates on the sideboard.."

Mae merch Dylan Thomas, Aeronwy Thomas, wedi ysgrifennu ei hatgofion o ddiwrnod Nadolig yn y ‘boathouse’, fel rhan o’r digwyddiadau i nodi hanner canmlwyddiant ers marwolaeth ei thad.

dadlwytho'r pdfdadlwytho'r pdf

DARLLENWCH "Laugharne" Darllediad olaf Dylan Thomas ar y radio

dadlwytho'r pdfdadlwytho'r pdf

 

 

Yr Adran Hon: Cyflwyniad | Hanes y Boathouse | Dewch ar y daith rithwir | Y Cwt Ysgrifennu | Gwybodaeth i Dwristiaid | Sut i gyrraedd y Boathouse

Dolenni: Hafan | Beth sy'n Newydd | Digwyddiadau | Dylan Thomas | Y Boathouse | Addysg | Cysylltu